Sefydlwyd Clwb
Dringo Porthmadog yn 1953, y flwyddyn y dringodd Sherpa Tenzing a
Syr Emund Hillary i gopa Everest, blwyddyn fythgofiadwy yn nhermau
mynydda.Roedd aelodau gwreiddiol y clwb yn dod yn rhannol o'r Trwp
Sgowtiaid llwyddiannus oedd ym Mhorthmadog.Roedd rhai o'r Sgowtiaid
hyn wedi ennill eu Bathodynnau Mynydda neu Fathodynnau Dringo ac o
ganlynaid i hyn wedi dod yn ddringwyr brwd ac yn awyddus i ennill
mwy o brofiad o fynydda.
Heddiw mae'r aelodau ifanc cyntaf o Glwb Dringo yn parhau i gymryd
rhan a dau ohonynt yn dal i ddringo creigiau i safon bur dda!
Daeth criw o bobl ynghyd i drafod sefydlu'r Clwb
Dringo, un ohonynt oedd Showell Styles, awdur a mynyddwr adnabyddus.
O ganlyniad i'r drafodaeth cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yng Nghwt
y Sgowtiaid ar 25 ain Chwefror 1953 , lle roedd deg o bobl yn bresennol.Enwir
y rhain sef sefydlwyr y clwb yn y llyfr cofnodion fel:
Showell Styles
G. E. Owen
E Lloyd Evans
W. M Richards
D. E Humphreys
Iorwerth Jones
Herbert Jones
Dewi Jones
Glyn Jones
James Roberts
Yn y dyddiau cynnar pan edrychwyd ar fynydda fel
diddordeb peryglus , anghyfrifol mae'n galonogol i nodi mai pobl
leol a pharchus yn y gymdeithas oedd yn y cyfarfod cyntaf ac nid
y math o berson y disgwylid iddo ymddwyn yn anghyfrifol trwy ddringo
mynyddoedd!
Yn dilyn y cyfarfod cyntaf cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol
ar 19 fed Mawrth , 1953 yng Nghlwb y Merched ( Stryd yr Wyddfa?)
. Etholwyd y pwyllgor sef : Miss G. Thomas, Miss J Humphries, W.M
. Richards, David E. Humphreys , H. Jones, ac R.W Trumper.Penderfynwyd
ar reolau i'r clwb a phenwyd tâl aelodaeth o 5/- i oedolion
a 2/6 i blant.Cafodd y clwb ei enwi yn Clwb Dringo Porthmadog (
fel yr awgrymwyd gan Dewi Jones, sydd ar y pwyllgor o hyd )
|
|
|
|
Heddiw mae Clwb Dringo Pothmadog yn parhau i fod
yn weithgar yn cynnig rhaglen lawn o deithiau mynydda a chyfarfodydd
o dan do.Trefnir rhaglen o deithiau cerdded a dringo yn Eryri bob
pythefnos dan arweiniad aelodau profiadol y clwb. Mae'r teithiau
hyn yn amrywio o fod yn deithiau hamddenol ar lefel isel i deithiau
ar lefel uchel , sy'n cynnwys dringo creigiau , sgramblo a dringo
ar rew ac eira.
Mae manteision cerdded hamddenol yn amlwg, ac yn
llawer gwell nag ymarfer mewn campfa. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n
ymarfer mewn campfa yn ei gweld yn anodd i barhau am gyfnod hir
tra mae pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau mynydda yn aml
yn parhau i fynydda yn eu henoed.
Yn y gaeaf cynhelir nosweithiau
misol lle gwahoddir siaradwyr i sgwrsio ar fynydda. Mae gan
y clwb lyfrgell o lyfrau mynydda
, llyfrau dringo a mapiau sydd ar gael i aelodau ar fenthyg.
Croesewir aelodau newydd i'r clwb ac hefyd mae croeso
i bobl sy'n ymweld â'r ardal i ymuno â'r teithiau. Am
fanylion ar sut i ymaelodi neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno
ar unrhyw daith cliciwch ar un o'r botymau cyswllt isod.
|
|