Tarren Cwm-Ffernol
leader : Arwyn Jones
date : 02.10.2011

 

Trefnydd/Meet convener … Arwyn Jones Nifer/Number on meet … 13
Enwau/Names … Haf, Gerallt, Iolyn, Eirlys, Dafydd P, Casia, David M, Cathy, Dewi, John W, Howard, Beti, Arwyn
Tywydd/Weather … Yr Haf Bach Mihangel yn jyst dal ei dir diolch byth. The Indian Summer just about survived for us to complete the walk.

Manylion y daith/Meet details

Wel sôn am embaras. Y mit lidar druan wedi gwario hydoedd yn nigoshiatio financials y trip tren yn y prif sdeshion yn Tywyn, gyda neb llai na’r rheolwr tew ei hun, er mwyn cael d îl sbeshial. A wedi pwyntio allan sefyllfa ariannol bregus y criw heb sôn am eu cyflwr gwantan cyffredinol. Taro bargen, ysgwyd llaw a chael darn o bapur swyddogol yn conffyrmio pris wan-off na fyddai’r cwmni nefar yn gallu fforddio ei gynnig i neb arall - “and rimembar to bring it with you” oedd ei da ta.

Er chwilota am ddyddiau cyn y Sul, ni ddaeth y nodyn holl bwysig i’r fei, a dyma esbonio wrth bawb, cyn cychwyn o Port, hwyrach byddai’n rhaid fforcio allan mwy na’r disgwyl ar y tren yn Rhyd-yr-onen. Ond we a bihold beth oedd ar wal y sdeshion ond proclamesion yn cynnig y trip i Dolgoch yn sylweddol rhatach na fy mhris roc botom i. Na i byth ei fyw o lawr. O leiaf cawsom daith bach digon dow dow ar rheilffordd Talyllyn trwy Brynglas i Dolgoch.

Dyma ddilyn y Nant i fyny trwy’r coed heibio’r ogofeydd llechi a’r rhaeadrau a wedyn cario ymlaen, gan godi’n raddol, ar hyd y trac ar ochr Mynydd Esgairweddan i ‘gopa’ Tarren Rhosfarch. Newid cyfeiriad a dilyn y ffens yr holl ffordd heibio Tarren Cwm-ffernol at y ddau garnedd ar gopa Trum Gelli. Cael y tîm ffoto, un digon di drafferth y tro yma chware teg, drosodd ar y ffordd i lawr Allt Gwyddgwion gyda Pico’n cymryd ffansi at Casia. Nant arall, Braich–y-rhiw y tro yma, yn ein harwain yn ôl i’r ceir yn Rhyd-yr-onen a dylid nodi ein diolch i faes carafanau Tynllwyn am roi caniatad i ni barcio ar eu tir. Amseru perffaith i orffen yn y Ship fel roedd y drysa’n agor.

An embarrassing start but a tidy finish!

Having personally negotiated a bargain one-off ticket price with one of the senior executives of the Talyllyn Railway I proudly announced to all and sundry before leaving Port how advantageous this was going to be. I had unfortunately mislaid the official notification of this fantastic deal and days of hunting proved fruitless. Never mind, I felt confident I could persuade the train staff to charge the agreed much reduced price. As I proudly made my way to Rhyd-yr-onen station I could here peals of laughter. A poster proclaimed the price of our journey was substantially less than my supposedly rock bottom arrangement. My composure disintegrated along with my prospects in my daytime job. Thankfully the train ride in the open carriage through Brynglas and on to Dolgoch distracted my tormentors.

On leaving Dolgoch station we followed the Nant through the woods past the waterfalls and slate caves. A convenient track enabled us to gradually ascend the slopes of Mynydd Esgairweddan to reach Tarren Rhosfarch. After changing direction we followed the fence past Tarren Cwm-ffernol to the two cairns on top of Trum Gelli. The team photo was taken on the way down Allt Gwyddgwion with Pico looking after Casia. Nant Braich-y-rhiw led us back to the cars at Rhyd-yr-onen and I should duly note our thanks to Tynllwyn Caravan site for letting us park on their land. The timing could not have been better – we reached the Ship in Port dead on opening time.

 

Trum Gelli 02.10.11
 
 
View Tarren Cwm-Ffernol. in a larger map