| |
|
Nifer/Number on meet … 9 a Pico
Enwau/Names … Arwyn Jones, John Williams, Dafydd Hughes, Steve a Rachel Oakes, Margery Warren, Haf Meredydd, Howard Peace, Gerallt Pennant a Pico
Tywydd/Weather … Sych a heulog, ambell gwmwl tywyll ac un gawod. Dry and sunny, a few dark clouds and one shower.
Manylion y daith/Meet details
Diolch i ddechrau i Dilwyn am drefnu diwrnod da i'r dringwyr. Wedi i ni gyfarfod yn Heol y Parc, aeth y dringwyr i gyfeiriad Bwlch y Moch a ninau'r creddwyr tua Borth y Gest. Cafwyd orig gerddorol ger y Garreg Wen ac wedyn dilyn godre Moel y Gest heibio Bron y Foel. Bu'r is-adran gwerthfawrogi troed ceiliog yn weithgar iawn ar y cymal yma! Codi wedyn o Bont Wern heibio bwthyn Bontfaen (lle cafwyd cinio a mwy o fiwsig) cyn dringo heibio Tyddyn Deucwm a chyrraedd y Gesail. Pwt o gerdded ar ffordd Prenteg cyn troi am Gwm Bach a chyfle i Dafydd roi cynnig ar atgyfodi tractor. Do wir! Galwyd am dacsi Elwyn, (01766 513859) sef brawd Arfon, i fynd a'r criw i gaffi Eric Jones i gyfarfod y dringwyr i rannu sgwrs, paned a chacen. Parhawyd a'r gwaith o ddisychedu yn y fangre arferol wedi i bawb ddychwelyd i Port. Mae'n dda bod cymaint o lwybrau hwylus a diddorol yn y cyffiniau, mae s ô n eisoes am daith i weld Cist Cerrig yn y dyfodol.
Thanks first of all to Dilwyn for organising a good day for the climbers. Walkers and climbers met in Heol y Parc, and went our separate ways. It was high tide in Borth y Gest and we had a short musical sojourn at Garreg Wen to remember the famous blind harpist, Dafydd y Garreg Wen, David of the White Rock. Moel y Gest was skirted via Bron y Foel and lunch taken near Bontfaen, with a further musical interlude (Puccini this time). By the way, the bench mark appreciation society had a whale of a time on this section! The only steep part of the walk took us to Gesail via Tyddyn Deucwm. A short section of tarmac on the Prenteg road was soon behind us as we turned down Cwm Bach. Dafydd made a valiant and noisy attempt (much BRRRR BRRR BRRRRRR noises) to revive a dead tractor. Yes he did! Elwyn's taxi (01766 513859) was called and Arfon's brother duly took us to Eric Jones' Cafe to meet up with the climbers over tea and cake. So, another green walk. We are fortunate in having this network of paths and there was talk of including Cist Cerrig near Bron y Foel on the next green outing. |
|