Taith Cob 200
leader : Pico y iar.
date : 17. 09.2011

Enwau/Names … Jon a Rowena, Harold, Dafydd Hughes, Anet, Haf, Dewi HJ, David Caergybi, John W, Iolyn, Sandra, Beti, Eirlys, Arfon, Margery, Gerallt a chyfeillion yn dathlu Cob 200 / and many friends celebrating Cob 200

Tywydd/Weather … Heulog ac ambell gawod drom / Sunny and a couple of downpours

Manylion y daith /Meet details

Gan fod fy mherchennog afradlon wedi bod yn galifantio tua Awstria am bythefnos cyn y daith, disgynnodd y cyfrifoldeb am drefnu'r cyfan ar ysgwyddau Sandra. Diolch iddi hi am hynny. Synhwyrais fod y daith wedi cychwyn yn y Stesion Fach, gan fod yna chwerthin mawr, s ŵ n st ê m, s ŵ n chwiban a chliceti clac olwynion y tr ê n bach am tua tri chwarter awr wedyn. Clywais ddyn y tr ê n yn gweiddi 'Tan y Bwlch' ac wedyn fy mherchennog yn cyfarch y fintai. Chwarae teg iddo, mi roddodd groeso cynnes i bawb a phlyg da i Clwb Dringo. Dywedodd ein bod am ddilyn llwybrau'r goedwig o Tan y Bwlch, dros y Gysgfa, Rhiw Goch a'r Cob yn ô l i Port. Cafodd pawb, heblaw fi, eu cinio ar y Gysgfa, lle'r oedd Gerallt wedi addo chwip o olygfa o aber Afon Dwyryd. Ond mi oedd y twmffat wedi anghofio bod y coed wedi tyfu cymaint nes cuddio'r cyfan bron yn llwyr! Mi ddaru mi glwcian chwerthin am ei ben o yn fano! Wedyn mi glywais lais Harold yn s ô n am adfail T ŷ 'n Mynydd, cartref Ioan Brothen, bardd a hynafiaethydd. Difyr iawn, diolch Harold. Lawr â ni at y Cei Mawr, y cei rheilffordd sych mwyaf yn Ewrop, ac mi aeth y tr ê n disgyrchiant heibio yn union fel 'roeddem ni yno. Dwi bron yn si ŵ r i mi glywed Dewi yn canmol Gerallt am ei amseru impecabl, bron yn si ŵ r. Tro trwy Penrhyn wedyn, ac o'r diwedd dyma weld golau dydd ar gyfer y ffim toto ar y Cob. 'Rarswyd! 38! Gwych oedd gweld pawb, yn enwedig Margery yn 82 a Celt yn 8 mis! Wedyn mi sdwffiodd o fi'n ô l yn ei sach a mynd am beint i'r Llong.

Pico.

Because my owner had spent the previous ten days on a continental jaunt, all the arrangements were made by Sandra. Many thanks to her for that. I sensed that we all met at Harbour Station because of all the laughter, hissing steam and loud whistles and the clickety clack of wheels for the next forty odd minutes. Then I heard the train man shout 'Tan y Bwlch' and my errant owner addressing the party. Fair play to him, he gave a warm welcome and a good plug for Clwb Dringo. He said that the plan was to follow the forest tracks from Tan y Bwlch over Y Gysgfa via Rhiw Goch back to Port. All, exept me, had a bite of lunch on Y Gysgfa, where Gerallt had promised a fine view of the Dwyryd estuary. I had the last laugh here, because I heard a few people complaining about the trees blocking the promised view!! Then I heard Harold talking about Ty'n Mynydd, the ruined home of poet and historian Ioan Brothen. Thanks Harold, concise and informative as usual. Down then to Cei Mawr, the largest dry stone railway embankment in Europe. We got there just in time to see the gravity train being hauled up to Tanygrisiau. I think I heard Dewi complimenting Gerallt on his impeccable timing, at least I think so. On through Penrhyn, and at last, my first glimpse of daylight for the pheam toto on the Cob. Blimey! 38! It was great to see Margery, 82 and Celt 8 months! He then stuffed me back in his rucksack and went for a pint at the Ship.

Pico.

 
 
Cob200 17.09.2011

View Cob 200 in a larger map 
Home