Cwmystradllyn a Moel Ddu (Cob200) |
|||
![]() |
Nifer/Number on meet … 12 Enwau/Names … Aelodau/members – Beti Rhys, Dewi Jones, Haf Meredydd, John Williams, Arfon Jones, Gwyn Williams, Arwyn Jones Tywydd/Weather … Rhyfeddol o sych, haul ar adegau a gwynt cryf ar y copa. Manylion y daith/Meet details Maes parcio Gelert/Lidl oedd y man cyfarfod a da oedd gweld pump o wahoddedigion yn ymuno a’r criw o CD i’r ail dro fel rhan o’r dathliadau 200 mlynedd ers i’r hen William Alexander Madocks adeiladu ei Gob. Ar ôl parcio ger yr argae yng Nghwm Ystradllyn dyma ddechrau cerdded ar hyd trac y rheilffordd i gyfeiriad chwarel lechi Gorseddau. Diolch i Haf am gael y syniad o wyro oddi ar y trac i ymweld ag adfeilion pentref Treforus. Anodd dychmygu y prysurdeb o gwmpas yr 20+ adeilad yn ôl yn yr 1860au. Dilyn y stryd uchaf cyn torri i lawr i ail ymuno a thrac y rheilffordd ychydig cyn yr ‘overhangs’ yn chwarel Gorseddau. Tamaid bach serth wedyn yn dilyn y wal i fyny ochr Ffridd Fawr, torri ar draws Ffridd Bach ac ymlaen i gopa Moel Ddu i gael cinio. Er ei bod yn chwythu cryn dipyn yr oedd y Traeth Mawr a’r mynyddoedd i’w gweld yn glir. Mwynhau’r goygfeydd o’r Cob, y ffordd osgoi newydd a’r traethau ar y ffordd i lawr yn ôl i’r argae a’r ceir. Dim golwg o unrhyw adyn arall yn ystod yr holl daith. A dim trafferth cael set yn Spooners i goroni’r cwbwl. It was pleasing to see five guests turn up at the Gelert/Lidl car park to join the CD members for the 2 nd walk celebrating the 200 years since William Alexander Madocks built his Cob. After parking by the dam in Cwm Ystradllyn we started walking along the Gorseddau slate quarry rail track. Thanks to Haf for suggesting a diversion to visit Treforus – a village of 20+ buildings built in the 1860’s to accommodate the Gorseddau slate miners and their families. We followed the higher ‘street’ before cutting across to rejoin the rail track near the overhangs by the quarry. Then a rather steep bit up alongside the wall up Ffridd Mawr, across Ffridd Bach and on to the summit of Moel Ddu for lunch and in spite of the strong wind we enjoyed clear views of Traeth Mawr and the surrounding mountains. We also enjoyed the views of the Cob and the new by-pass on the way back down to the dam and the cars. We did not come across a single soul during the entire walk. It was even quiet in Spooners when we got there. An enjoyable outing.
|
||